Nod
Bwrdd Datblygu Proffesiynol Cymru
“Cynyddu atyniad gweithio yn y sector chwaraeon a gweithgarwch corfforol a sicrhau bod cwsmeriaid a defnyddwyr yng Nghymru yn cael profiad rhagorol.”
Byddwn yn gwneud hyn drwy:
- Sicrhau bod aelodau Bwrdd Datblygiad Proffesiynol Cymru yn cynrychioli’r sector cyfan, gan ganiatáu i ni edrych ar ddatblygiad gweithlu’r sector drwy lensys niferus.
- Cysoni ein nodau a’n huchelgeisiau gyda’r ‘Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon’ drwy weithio i arallgyfeirio a chefnogi gweithlu mwy cynhwysol.
- Gweithio gyda CIMSPA i ddatblygu gwasanaeth sy’n darparu canlyniadau sy’n seiliedig ar anghenion y sector chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru.
- Creu strategaeth Sgiliau Chwaraeon Cymru. Bydd y strategaeth hon yn cael ei chreu gan y sector gyda’n gweithlu ni’n chwarae rhan flaenllaw, gan hefyd ystyried a chysoni â deddfwriaeth bwysig arall yng Nghymru a’r DU.
- Tynnu sylw at bwysigrwydd y sector chwaraeon a gweithgarwch corfforol i iechyd a lles Cymru a’r bobl y tu ôl i’w effaith.
- Datblygu adnoddau cynhwysfawr o ddata a gwybodaeth fel sail i benderfyniadau ar lefel leol a chenedlaethol.
- Ymdrechu i ymgorffori llwybrau clir o ansawdd mewn system addysg addas trwy gydol gyrfa unigolyn.
- Creu sector sydd â chynhwysiant yn rhedeg drwy ei wythiennau i sicrhau bod y sector yn opsiwn gyrfa deniadol i bawb yng Nghymru.
- Newid meddylfryd y ffordd y mae gweithlu Cymru yn gweld eu hunain a’u swyddi.
Blaenoriaethau
Mae gan Fwrdd Datblygiad Proffesiynol Cymru wyth blaenoriaeth a fydd yn cael eu hymgorffori yn strategaeth Sgiliau Chwaraeon Cymru:
- Data a Gwybodaeth
- Arweinyddiaeth a Rheolaeth
- System Addysg Gymraeg Effeithlon
- Cydraddoldeb, Amrywiaeth, a Chynhwysiant
- Hyrwyddo argaeledd a chyfleodd i ddefnyddio’r Iaith Gymraeg
- Iechyd a Lles
- Codi Ymwybyddiaeth
- Eiriolaeth a Lobïo
- Cydnabyddiaeth a Phroffesiynoldeb